Gall Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw sicrhau fod pob agwedd o’ch gwasanaeth digidol yn hygyrch. Un elfen bwysig o hyn yw eich cynorthwyo â’ch gwasanaethau cyfryngau.
Darperir ein Gwasanaethau Cyfryngau gan dîm profiadol o arbenigwyr technegol sy’n cynorthwyo â thri maes allweddol:
- Trawsnewid dogfennau,
- Trawsgrifio a chapsiynu, ac
- Addasu delweddau.
Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cyflwyno gwybodaeth, gallwn ni eich cynorthwyo i’w gwneud yn hygyrch.
Trawsnewid Dogfennau
Nid yw dogfennau PDF a Microsoft Word yn hygyrch yn eu hanfod. Fodd bynnag, gellir eu cyflwyno ar ffurf hygyrch. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr sydd ag amrywiaeth helaeth o anableddau ac amhariadau gyrchu a darllen y dogfennau.
Mae rhai o’r anawsterau mwyaf cyffredin â dogfennau PDF a Word yn ymwneud â’r defnydd o ddarllenwyr sgriniau. Mae’r dogfennau yn cynnwys rhwystrau sy’n atal y defnydd effeithiol o’r math hwn o dechnoleg addasol. Bydd y sawl sy’n defnyddio bysellfyrddau yn unig hefyd yn profi problemau yn aml iawn wrth geisio cyrchu’r mathau hyn o ddogfennau.
Bydd tîm Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad i gynorthwyo eich tîm staff i sicrhau fod dogfennau o’r fath yn hygyrch. Byddwn yn rhannu ein gwybodaeth â’ch tîm fel gallwch chi roi arferion hygyrch ar waith yn y dyfodol – i bob pwrpas, byddwn yn rhoi’r grym yn uniongyrchol yn eich dwylo chi.
Trawsgrifio a Chapsiynu
Mae angen dewis testunol amgen (testun yn unig) yn lle cynnwys fideo a sain i sicrhau ei fod yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n drwm eu clyw neu’n fyddar. Fel arfer, gwneir hyn trwy ddarparu trawsgrifiad, capsiynau neu’r ddau. Gall ein tîm hynod fedrus ddarparu gwasanaethau trawsgrifio a chapsiynu ar gyfer pob cyfrwng fideo a sain a wnaiff ddiwallu anghenion eich gwasanaeth digidol.
Mae trawsgrifiad yn darparu cofnod cyflawn o’r wybodaeth a gyflwynir. Mae capsiynau caeedig yn debyg i fath datblygedig i isdeitlau, ac maent wedi’u cynllunio i gael eu cyflwyno ar yr un pryd â’r geiriau a siaredir. Bydd isdeitlau yn cwmpasu unrhyw ddeialog yn unig, ond bydd capsiynau caeedig yn cynnwys holl fanylion y sain, yn cynnwys pwy yw’r siaradwyr, effeithiau sain ac elfennau ac elfennau dieiriau.
Bydd y gwasanaethau hyn yn sicrhau fod yr wybodaeth a byddwch yn ei gyflwyno ar ffurf fideos a sain yn hygyrch i bob defnyddiwr.
A wyddoch chi?
Mae 11 miliwn o bobl wedi colli eu clyw ledled y DU – dyna un o bob chwech ohonom ni. (Ffynhonnell: Action on Hearing Loss)
Mae 1 o bob 4 o bobl fyddar wedi ymddiswyddo oherwydd gwahaniaethu (ffynhonnell: Arolwg o Brofiad Ceiswyr Swyddi a Chyflogeion Byddar)
Addasu Delweddau
Nid yw bob delwedd yn hygyrch i bob gwyliwr. Efallai na fydd rhai defnyddwyr yn gallu gweld y delweddau. Efallai na fydd eraill yn gallu dehongli beth ddylai’r delweddau ei gyfleu. Fel y cyfryw, mae’n bwysig sicrhau fod Testun Amgen ar gael ar gyfer bob delwedd a ddefnyddir gennych chi ar blatfform eich gwefan.
Gall staff Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw gydweithio â’ch tîm staff i sicrhau fod holl ddelweddau eich gwefan yn hollol hygyrch. Yn ogystal â datrys anawsterau â delweddau sydd eisoes yn eu lle, byddwn hefyd yn rhannu ein gwybodaeth â’ch staff mewnol i sicrhau eich bod yn gwybod sut i gyflwyno delweddau hygyrch pan fyddwch chi’n eu hychwanegu at eich gwefan yn y dyfodol.
A wyddoch chi?
Mae 1.87 miliwn o bobl yn y DU sydd wedi colli eu golwg mewn modd sy’n effeithio’n sylweddol ar eu bywyd beunyddiol
- Dim ond un o bob pedwar unigolyn wedi’u cofrestru fel rhywun dall neu’n gweld yn rhannol ac o fewn oedran gweithio sydd mewn cyflogaeth).
(Ffynhonnell: Adroddiad RNIB ynghylch Statws Cyflogaeth a Cholli Golwg 2017)
Cysylltwch â thîm Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw heddiw i gael rhagor o fanylion.