Mae Gwasanaethau Hygyrchedd yn fenter elusennol sydd â dros 30 blynedd o brofiad cyfunol o ddarparu gwasanaethau hygyrchedd rhagorol a phroffesiynol.
Byddwn yn cydweithio â chyrff llywodraeth ganolog a lleol, cwmnïau o’r sector preifat ac elusennau ledled yn DU ac yn rhyngwladol. Ein nod yw cynorthwyo sefydliadau i greu amgylchedd hygyrch i’w staff a’u cwsmeriaid.
Rydym ni’n rhan o Ymddiriedolaeth Shaw, elusen genedlaethol sydd wedi cynyddu ei chyrhaeddiad ers ei sefydlu yn 1982 ym mhentref Shaw, Wiltshire. Yn wreiddiol, roedd yr elusen yn cynorthwyo’r nifer fechan o bobl leol anabl o Shaw i’w cynorthwyo i ganfod gwaith. Bellach, bydd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynorthwyo dros 50,000 o bobl y flwyddyn ledled y DU a thu hwnt, fel y gallant fyw bywydau annibynnol a chynhwysol.
Mae Gwasanaethau Hygyrchedd yn darparu arweiniad a chymorth ynghylch:
- Hygyrchedd digidol
- Hygyrchedd adeiladau
- Hyfforddiant ynghylch hygyrchedd digidol, cydraddoldeb i bobl anabl a gwasanaethau cwsmeriaid cynhwysol
- Gwasanaethau cyfryngau (dogfennau hygyrch, trawsysgrifio a chapsiynau)
- Polisïau a gweithdrefnau hygyrch
- Ymgynghoriaeth ynghylch hygyrchedd
Mae cynhwysiant wrth wraidd ein gwaith ac mae’r tîm ymroddgar yn ymdrechu i rymuso unigolion anabl i fyw yn fwy annibynnol ac ymgysylltu â bywyd y gymuned, wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Fel menter elusennol, rhan o’n nod yw addysgu a dylanwadu trwy wella ymwybyddiaeth o gynhwysiant digidol ac adeileddol yn y gymdeithas. Yn ychwanegol, mae’r tîm yn deall yr heriau bydd sefydliadau yn eu hwynebu ac mae’n gweithio’n weithgar i wella hygyrchedd yn y gymdeithas trwy’r gwasanaethau mae’n eu darparu.