Mae gan dîm Gwasanaethau Hygyrchedd dros 30 blynedd o brofiad cyfunol a brwdfrydedd dros gynorthwyo sefydliadau i ddod yn hygyrch. Bydd y tîm yn darparu arweiniad yn ystod pob cam o’ch taith hygyrchedd – yn eich helpu i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cynnwys staff, cwsmeriaid, cyflenwyr a buddsoddwyr.
Mae ein tîm yn cynnwys Ymgynghorwyr, Hyfforddwyr, Archwilwyr yr Amgylchedd Adeileddol, Arbenigwyr Technegol ac Aseswyr, ac mae ganddynt amrywiaeth o sgiliau arbennig ynghylch hygyrchedd a phrofiad o hynny.
Wrth ystyried hygyrchedd digidol, mae’n werth cofio fod adnoddau profi awtomataidd, er eu bod yn ffordd wych o gynnig awgrym o anawsterau hygyrchedd, yn gyfyngedig ac nid ydynt yn disodli dehongliad arbenigol a phersonol.
Mae gan ein tîm Profion Digidol mewnol brofiad uniongyrchol o anabledd a thechnoleg gynorthwyol, ac maent yn cynnig safbwynt unigryw, yn bersonol ac yn broffesiynol.
Bydd aseswyr yn cynnal y profion gan ddefnyddio eu sgiliau arbenigol, eu profion unigryw a thechnoleg gynorthwyol i nodi unrhyw anawsterau a wynebir, felly caiff sefydliadau ddarlun gwir a thrylwyr o hygyrchedd eu platfformau digidol.
Mae ein hymgynghorwyr hygyrchedd yn aelodau o’r Gofrestr Genedlaethol o Ymgynghorwyr Mynediad (NRAC) a byddant yn darparu arweiniad ynghylch dylunio cynhwysol, newidiadau i’r gweithle a hyfforddiant. Gallant hefyd gynnig argymhellion ynghylch gwella hygyrchedd eich adeiladau.
Mae’r ddirnadaeth werthfawr hon ynghyd ag arweiniad arbenigol yn helpu ein cwsmeriaid i sicrhau’r atebion mwyaf hygyrch dro ar ôl tro.
Hygyrchedd wedi’i wneud yn syml gan arbenigwyr